Sarah Jambori
Rwy’n dod o Gaerfyrddin ac fe astudiais addysg yng Ngholeg Caer. Yn ystod dyddiau’r Cwrricwlwm Cenedlaethol, penderfynais nad oeddem eisiau addysgu, ond roeddem yn gwybod fy mod am weithio gyda phlant ac ymwneud â’u dysgu. Yn 1996 es i weithio fel difyrwr plant i Airtours yn Mallorca a Lanzarote. Arhosais yn Lanzarote am 6 mlynedd yn gweithio mewn adloniant, gwestai, cysylltiadau cyhoeddus a fel nyrs mewn deintyddfa. Yn ystod yr amser hwnnw fe ddysgais Spaeneg a phriodi gweinydd o’r Caneri. Fe symudon yn ôl i Gaerfyrddin yn 2004, ac yn 2005 dychwelyd i’r cynllun gwreiddiol – sefydlu’r Jambori o’r diwedd!!
Yn 2008, fe greuais a chyd-gynhyrchu’r CD, Amser Symud – casgliad Cymraeg o ganeuon gyda symudiadau i blant a ddaeth yn adnodd poblogaidd ymysg plant ac athrawon drwy Gymru.
Rwy’n cynnal sesiynau hyfforddi a gweithdai cynhadledd i ymarferwyr gofal plant ac i athrawon dan hyfforddiant ac rwyf wedi bod yn cyd-weithio gyda phrosiect CDELLS yn ddiweddar, ‘Cerddoriaeth yn y Cyfnod Sylfaen’.
Rwy’n briod (â’r gweinydd o’r Caneri) ac mae gennym ddau o blant, 8 a 4 (a hanner) oed










