Home Page
what is jambori
where is jambori
Foundation Phase
Nurseries and Groups
Parties and Shows
Go to the Jambori Shop
Ebost
What parents say about us
Find out about Sarah

Beth mae rhieni’n dweud am y sesiynau

“Mae fy nau blentyn wedi dwlu ar fynd i Jambori.  Teimlaf eu bod wedi dysgu llawer o sgiliau gwahanol o fynd i Jambori fel canu, dawnsio, cyfri, dysgu lliwiau, gwrando ac eistedd yn amyneddgar am eu tro i fynd i’r bocs sŵn sydd mor boblogaidd. 

Mae hefyd yn ddifyr i gwrdd â rhieni eraill ac fe fydd yn eithaf trist pan fydd fy ail blentyn yn stopio mynd gan y byddaf yn gweld ei eisiau.  Rwyf wedi bod pob wythnos am y bedair mlynedd diwethaf”

                                                      Lisa, mam Owain ac Olivia

Roedd fy mhlant a fi yn caru mynd i Jambori.  Roedd yn uchafbwynt i’r wythnos iddyn nhw ac fe fyddwn yn ei argymell yn gryf!  Mae’n hwyl ac ar yr un pryd yn addysgiadol iawn.  Mae hefyd yn lle da i gwrdd â phobl newydd.

Katarina,  mam Tora ac Erin

Sarah – rwyt ti’n ddiddanwr heb ei ail – mae dy egni a’th frwdfrydedd yn arbennig, rwyt ti’n llonni boreau dydd Llun Lybbi, yn ogystal â fi. 
Rachel, mam Lybbi

Beth mae rhieni yn ei ddweud am bartion penblwydd