Y Cyfnod Sylfaen
Ers cychwyn cwrricwlwm y Cyfnod Sylfaen, mae sesiynau Jambori wedi datblygu i gynnwys cymaint o’i athrawiaeth â sy’n bosib. Mae’r sesiynau yn anelu i ddarparu ystod eang o gyfleoedd dysgu i blant. Gwneir pob ymdrech i gynnwys pob un o’r saith maes dysgu gyda’r iaith Gymraeg yn un o’i ddarpariaethau allweddol. Mae defnyddio odl ac ailadrodd a rhoi cyfle i blant i weld a chymryd rhan yng ngeiriau’r caneuon yn gwella dealltwriaeth plant o’r Gymraeg ac yn gymorth amhrisiadwy i’w datblygiad ieithyddol.
Cynllunir pob seswin Jambori i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu arbrofol, o chwarae offeryn cerdd i drafod maint a safle’r tedis ar y wal a dewis yr het gywir i Jac y Do.
Drwy fwcio sesiwn Jambori ar gyfer eich dosbarthiada(au) Cyfnod Sylfaen, byddwch nid yn unig yn darparu cyfle addysgiadol unigryw i’ch plant ond hefyd yn rhoi esiampl i’ch staff o rai gweithgareddau llwyddiannus i ddefnyddio gyda phlant o’r oed yma.
Mae’r caneuon a’r rhigymau’n rhai cyfarwydd ac yn cefnogi caffael yr iaith Gymraeg mewn disgyblion a staff. Bydd y syniadau a ddatblygwyd yn y sesiwn yn ysgogi ffyrdd gwreiddiol o gynnwys caneuon adnabyddus a gwreiddiol i mewn i addysgu plant.
Mae Jambori wedi cynnal gweithdai mewn amryw gynhadledd Blynyddoedd cynnar ac hefyd yn cynnal sesiynau rheolaidd i fyfyrwyr Addysg yng Ngholeg Prifysgol y Drindod Dewi Sant.
Dywed Carys Richards, Uwch ddarlithydd mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Ngholeg Prifysgol y Drindod Dewi Sant:
“Mae Jambori wedi bod yn elfen flynyddol o’r rhaglen ers 2009. Mae’r hyfforddai yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn ac yna defnyddio eu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd o fewn ysgolion a sefyllfaoedd addysgiadol. Mae’r CD a’r syniadau y mae Jambori’n ysgogi yn ennyn brwdfydedd a chymryd rhan. Mae plant yn dysgu iaith, rhifau, a sgiliau symud a chyfeiriadol mewn modd ryngweithiol. Mae’n taro deuddeg fel adnodd addysgol addas. Piti nad fi feddyliodd amdano!’
Mae pob sesiwn Jambori’n para 45 munud ac yn addas i oddeutu 20 o blant. * Gellir darparu sesiynau yn Gymraeg, yn Saesneg neu yn ddwyieithog.
1 sesiwn - £75.00
3 sesiwn (o fewn 1 mis) £180
*Cysylltwch os gwelwch yn dda i drafod yr opsiwn orau ar gyfer eich sefydliad.










