Croeso i Jambori
“Mae caneuon gyda symudiadau’n helpu plant i brofi cerddoriaeth yn gorfforol drwy chwarae, ac yn bywiogi’r berthynas rhwng rhiant a phlentyn. Ceir caneuon syml gyda symudiadau sy’n gofyn i riant ganu a chlapio a’r plentyn ddynwared eich symudiadau, ac yna ceir caneuon gyda symudiadau y gall y plant ganu eu hunain. Mae clapio a thapio hefyd yn helpu datblygu sgiliau mân yn y dwylo a’r bysedd ac yn cynyddu eu dealltwriaeth o gyfeiriad. Mae caneuon gyda symudiadau’n galluogi plant i gymryd rhan hyd yn oed pan na allant ganu’r geiriau i gyd. Mae hyn yn rhoi cymaint o foddhad a gall ddechrau ar symudiad a mynegiant dychmygus. Yn fwy na dim, mae caneuon gyda symudiadau yn hwyl.”
http://www.bbc.co.uk/music/parents/
Jambori.co.uk yn argymell :












