Home Page
what is jambori
where is jambori
Foundation Phase
Nurseries and Groups
Parties and Shows
Go to the Jambori Shop
Ebost
What parents say about us
Find out about Sarah

Grwpiau a Meithrinfeydd

Mae sesiynau Jambori yn boblogaidd iawn mewn lleoliadau fel Meithrynfeydd Dydd, Canolfannau Deulu, grwpiau cyn-ysgol a Grwpiau Ti a Fi.  Naill ai fel digwyddiad rheolaidd, pob tua pythefnos, neu fel digwyddiad arbennig, mae plant yn ymateb yn dda iawn i Jambori gan eu bod yn mwynhau gweld wyneb newydd gyda syniadau ac adnoddau gwahanol.  Gall sesiynau rheolaidd mewn meithrinfa gael eu addasu i’ch thema gyfredol.  Mae Jambori wedi bod yn cynnal sesiynau yn Meithrinfa Cae’r Ffair, Gorslas ddwywaith y mis ers 2005.  Dywed Sharon James, y perchennog:

‘Mae Jambori wedi bod yn dod i Cae’r Ffair am 5 mlynedd.  Yn ystod y cyfnod hwn mae hi wedi rhoi llawer o gyfleoedd dysgu i’n plant, e.e magu hyder, dod yn annibynnol a llawer iawn o hwyl drwy rigymau a dawnsio...  Mae’n plant yn elwa gymaint o’r ‘sesiwn arbennig’ hwn gan bod Sarah yn diwallu cymaint o feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen, sy’n bwysig iawn i ni gan ein bod eisiau’r gorau i’n plant.  Diolch yn fawr iawn.  Rydym yn mwynhau eich cael yma ac mae’r plant wastad yn edrych ymlaen i’ch ymweliad’.