Partïon a Sioeau
Sioe Jambori yw’r ffordd berffaith i ddifyrru tŷ neu neuadd llawn plant 1, 2, 3, 4 neu 5 oed wedi’u cyffroi: 45 munud o ganeuon, dawnsio, offerynau a gemau di-baid. Defnyddir llawer o ganeuon adnabyddus, a gall plant gwrdd â Incy Wincy, chwilio am fwncïod a dewis het i Jac y Do. Mae’r partion hefyd yn cynnwys sawl cân newydd a chyffrous sy’n siwr o ddarparu digon o symud, sbri ac egni. Gellir cael parti yn Gymraeg, Saesneg, neu’n ddwyieithog. Mae Sarah yn rhugl mewn Sbaeneg a gall ychwanegu hyn at y parti petaech eisiau.
Daw Sarah â system sain, propiau, peli, cylchoedd hwla a.y.b gan adael i’r oedolion fwynhau mwynhad y plant!
Bydd Partion Gwych ar gael i blant hŷn cyn hir gyda cherddoriaeth disgo, goleuadau a gemau parti.
Mae parti Jambori’n para 45 munud ac yn gwneud parti’n ddi-drafferth i’r oedolion. Cliciwch yma i weld beth mae rhieni’n meddwl am bartion jambori
MAE PARTION YN BOBLOGAIDD DROS BEN AC MAE’N RHAID EU BWCIO O FLAEN LLAW GYDA BLAENDAL ER MWYN SICRHAU’R DYDDIAD.










